Comisiwn y Senedd |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 11 Rhagfyr 2023 |
|
||||
Amser: |
10.35 - 12.29 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: SC(6)2023(11) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Y Gw. Anrh. Elin Jones AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Adam Price AS Ken Skates AS Joyce Watson AS |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid Leanne Baker, Prif Swyddog Pobl dros dro Nerys Evans, Pennaeth y Gwasanaeth, Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
Saurabh Das, Avison Young
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates AS am y rhan gyntaf o'r cyfarfod.
1.b Datgan buddiant
Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 6 Tachwedd.
2 Ymateb i'r Pwyllgor Cyllid ynghylch: Adolygiad o’r Gyllideb Atodol
Roedd y Pwyllgor Cyllid wedi ysgrifennu at y Comisiwn drwy ddiweddariad i’w Adolygiad o'r Datganiad o Egwyddorion, gan wahodd ystyriaeth bellach o faterion yn ymwneud â gweithdrefnau Cyllideb Atodol y Senedd.
Cytunodd y Comisiynwyr ar eu llythyr ymateb, sy’n rhoi sylwadau ar y prosesau ar gyfer cyllideb atodol a chyllideb flynyddol ac yn gwneud awgrymiadau ar sut y gellid mynd i'r afael â rhai o'r rhain, i'w hystyried gan y Pwyllgor.
3 Ffyrdd o Weithio - Bae 2032
Cafodd y Comisiynwyr bapur a chyflwyniad yn nodi Achos Amlinellol Strategol (SOC) ar gyfer anghenion ystad Bae y Comisiwn yn y dyfodol. Mae'n bosibl mai hwn yw'r prosiect mwyaf a mwyaf cymhleth i’r Comisiwn ymgymryd ag ef. Byddai'n sicrhau anghenion lle o ran swyddfeydd tymor hir y Senedd, y Comisiwn a Llywodraeth Cymru yn y Bae, ger adeilad y Senedd ei hun. Paratowyd yr Achos Amlinellol Strategol gan ymgynghorwyr eiddo proffesiynol y Comisiwn (Avison Young).
Roedd y Comisiwn wedi cytuno i ddilyn proses 'Llyfr Gwyrdd' Trysorlys EF / Llywodraeth Cymru. O fewn y broses honno, Achos Amlinellol Strategol yw cam cyntaf methodoleg achos busnes tri cham sy'n addas ar gyfer prosiectau o'r cymhlethdod hwn a'r gost hon.
Cymeradwyodd y Comisiwn Achos Amlinellol Strategol y Bae 2032, sy'n rhoi mandad i swyddogion y Comisiwn symud prosiect Bae 2032 i’w gam nesaf, drwy ddatblygu Achos Busnes Amlinellol a gweithio ymhellach ar y fersiwn gychwynnol o’r ffordd ymlaen a ffefrir a nodir yn yr Achos Amlinellol Strategol o ran datblygu cyfleuster newydd ar blot Sgwâr y Cynulliad y drws nesaf. Nododd y Comisiynwyr nad yw'r Achos Amlinellol Strategol yn ceisio nac yn gofyn am unrhyw benderfyniad ar unrhyw opsiwn llety gan y Comisiwn, ac y byddai ystyriaethau o'r fath yn codi yn ddiweddarach yn y broses. Cytunwyd y dylid paratoi nodyn briffio gwybodaeth ar gyfer yr Aelodau maes o law.
Nododd y Comisiynwyr hefyd y byddai datblygu'r Achos Busnes Amlinellol yn ei gwneud yn ofynnol i gaffael gwasanaethau proffesiynol allanol i’w ddrafftio ac yna sicrhau ei ansawdd, ac y byddai cynigion yn hyn o beth yn cael eu hystyried gan y Bwrdd Gweithredol maes o law.
4 Ffyrdd o Weithio - Tŷ Hywel 2026
Ystyriodd y Comisiynwyr ragdybiaethau cynllunio drafft a gynigiwyd i lywio darpariaeth ar gyfer yr anghenion a fyddai'n deillio o nifer uwch o Aelodau.
Mae cynigion Diwygio’r Senedd i gynyddu maint y Senedd i 96 o Aelodau yn golygu bod angen addasu Tŷ Hywel i ddarparu lle priodol ar gyfer yr anghenion yn sgil cynnydd yn nifer yr Aelodau, a’u staff cymorth, a darparu lle priodol hefyd i staff y Comisiwn, a digon o le ar gyfer nifer uwch o swyddfeydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru.
Cymeradwyodd y Comisiynwyr y rhagdybiaethau cynllunio arfaethedig ar gyfer prosiect Tŷ Hywel 2026 ac amserlen lefel uchel i’w mabwysiadu fel man cychwyn i alluogi datblygu opsiynau a chynigion manylach. Fe wnaethant nodi yr hoffent roi ystyriaeth fanylach i’r opsiynau a'r cynlluniau cychwynnol a manwl mewn cyfarfod yn y dyfodol.
5 Diweddariad a Chanlyniadau Arolwg Urddas a Pharch
Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar y gwaith sydd wedi digwydd ers i'r Comisiwn ystyried adolygiad o'r fframwaith Urddas a Pharch ym mis Mehefin 2023, a chytunodd ar nifer o argymhellion, a chanfyddiadau'r arolygon Urddas a Pharch a gynhaliwyd yn ddiweddar o ran Aelodau, staff cymorth yr Aelodau a staff y Comisiwn.
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad cynnydd ar weithgarwch a gynhaliwyd ers mis Mehefin 2023 ac adroddiad ar ganlyniadau arolwg Urddas a Pharch 2023 y Senedd. Gofynnodd y Comisiynwyr i rywfaint o feincnodi gael ei gynnal a’u barn y byddai dealltwriaeth o arfer da o amgylcheddau seneddol eraill yn ddefnyddiol.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylid rhannu canfyddiadau'r arolwg Urddas a Pharch gyda'r Bwrdd Taliadau Annibynnol a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ac y dylid cyhoeddi'r adroddiad ynghyd â gohebiaeth fewnol ac allanol briodol.
6 Canlyniadau Arolwg Aelodau a Staff Cymorth
Cafodd y Comisiynwyr ganlyniadau Arolwg Boddhad 2023 yr Aelodau / Staff Cymorth, a gynhaliwyd rhwng 18 Medi a 15 Hydref 2023 ac a oedd ar agor i 60 Aelod a 267 o Staff Cymorth.
Nododd y Comisiynwyr ganlyniadau Arolwg Boddhad 2023 yr Aelodau / Staff Cymorth, ac y bydd crynodeb o'r canlyniadau, fel mewn blynyddoedd blaenorol, yn cael ei rannu gyda'r Bwrdd Taliadau Annibynnol a'i gyhoeddi. Roeddent yn croesawu bod Dangosyddion Perfformiad Allweddol wedi'u bodloni a bod y gyfradd ymateb i'r arolwg wedi cynyddu ers y blynyddoedd blaenorol, ac yn ystyried ei bod yn bleser gweld y cynnydd yn y gefnogaeth a ddarperir mewn perthynas â rhai gwasanaethau yn cael ei adlewyrchu yng nghanlyniadau'r arolwg.
7 Defnyddio grŵp e-bost 'holl staff y Comisiwn'
Trafododd y Comisiynwyr gais a gafodd y Prif Weithredwr a'r Clerc. Roedd Ochr yr Undebau Llafur wedi gofyn i'r Comisiwn ystyried a ddylid cyfyngu ar y defnydd o grŵp e-bost 'holl staff y Comisiwn', h.y. ei gadw i'w ddefnyddio ar gyfer negeseuon mewnol yn unig i staff y Comisiwn a’i atal rhag bod ar gael i’w ddefnyddio gan yr Aelodau neu eu staff.
Sicrhawyd y Comisiynwyr y byddai'r Aelodau'n parhau i allu cysylltu â staff y Comisiwn drwy e-bost, ac i'r gwrthwyneb, mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir a chytunwyd i'r cais.
8 Papurau i’w nodi:
8.a 25 mlynedd o Ddatganoli – cynlluniau cyfathrebu ac ymgysylltu
Nododd y Comisiynwyr y cynigion cyfathrebu ac ymgysylltu i ddathlu 25 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru a fyddai'n cael eu datblygu ymhellach dros y misoedd nesaf.
8.b Diweddariad 6 mis Dangosyddion Perfformiad Allweddol (Ebrill - Medi 2023)
Nododd y Comisiynwyr yr adolygiad o ddata’r 6 mis cyntaf (Ebrill - Medi 2023) ar gyfer y Dangosyddion Perfformiad Allweddol corfforaethol allanol a bod y mesurau dangosyddion allbwn a llwyth gwaith mewnol bellach wedi’i gwblhau, a nid oes dim meysydd amlwg yn peri pryder.
8.c Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn.
9 Unrhyw Fater Arall
Trafodaethau cytundeb cyflog – Nododd y Comisiynwyr fod y Prif Weithredwr wedi cael y cais tâl ffurfiol gan Ochr yr Undebau Llafur a bod trafodaethau ar y gweill, a byddai rhagor o fanylion yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod mis Ionawr y Comisiwn.
Cyflog byw gwirioneddol - Nododd y Comisiynwyr y penderfyniad gan y Bwrdd Gweithredol i gynyddu pwyntiau 1 a 2 gradd TS o gyflogres mis Rhagfyr.
Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor y Biliau Diwygio – Nododd y Comisiynwyr fod y Llywydd wedi cael llythyr yn gofyn am wybodaeth am ystyriaethau'r Comisiwn yn ymwneud â gweithio mewn hybiau.
Ieithoedd swyddogol - cododd deiliad y portffolio awydd i drafod gyda swyddogion y Comisiwn ddarparu cymorth i'r rhai sy'n dymuno cymryd rhan ym musnes y pwyllgorau yn Gymraeg.
Yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf roedd y Comisiynwyr wedi nodi'r enwebiad i Grŵp Llywodraethu Cynllun Pensiwn Staff Cymorth yr Aelodau ac ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar Gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon.